top of page
Asset 4.png

Yn rhan o gyfres genedlaethol Cymdeithas Cynllunwyr Theatr Prydain “Hello Stranger” a gŵyl Cynllunio a Gofod ar gyfer Perfformio Pedeirblynyddol Prâg, arddangosfa gyhoeddus am ddim yw helo ddieithryn a gynhelir ledled y brifddinas sy’n dathlu gwaith cynllunwyr a gwneuthurwyr theatr yng Nghymru tra’n procio a chreu man ar gyfer sgyrsiau pwysig gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a’r cyhoedd yn gyffredinol ynglÅ·n â chynaliadwyedd, mynediad, a rôl y cynllunydd mewn cyflwyno perfformiad byw.

​

Part of the Society of British Theatre Designer’s national series “Hello Stranger” and the Prague Quadrennial of Performance Design & Space, helo ddieithryn is a free, public exhibition across the capital celebrating the work of theatre designers and makers in Wales while provoking and creating space for important conversations both with industry professionals and the general public around sustainability and the role of the designer in presenting live performance.

 

Curaduron/Arweinwyr Prosiect | Curators/Project Leaders: Brad Caleb Lee & Ruth Stringer

Wales 2.jpg

Mae’r prosiect arddangos cenedlaethol ar gyfer 2023, o’r enw “Hello Stranger”, yn ymwneud â chroesawu cynllunwyr, gwneuthurwyr, a chynulleidfaoedd yn ôl i ailgysylltu a dal i fyny ar sefyllfa cynllunio ar gyfer perfformio. Mae Helo Ddieithryn yn pwysleisio ymatebolrwydd, bod yn agored a newid yng nghyd-destun nifer o newidiadau sylfaenol sy’n gorgyffwrdd. Wrth i’r byd ddod allan o’r pandemig a wynebu argyfwng yn yr hinsawdd, etifeddiaethau hiliaeth ac anghydraddoldeb, gwrthdaro byd-eang, ac effaith barhaus technolegau newydd ar ein bywydau, rydym yn wynebu sefyllfa newidiol ar gyfer maes cynllunio ar gyfer perfformio a senograffeg. Wrth i’r syniadaeth am gynllunio ddod i’r amlwg fel dull gwerthfawr o ddatrys problemau (neu gael ei feirniadu fel arf cyfalafiaeth), sut mae cynllunwyr ar gyfer perfformio yn ymateb ac yn addasu i heriau allweddol ein hoes? Sut mae ein ffurf gelfyddydol wedi newid mewn ymateb i fyd cyfnewidiol? Pa leisiau sydd wedi bod ar goll o’r sgwrs?

 

Cynhelir digwyddiadau rhanbarthol ledled y DU ym mis Mawrth 2023. Bydd pob un yn cael ei arwain gan guradur-gynllunydd (neu gasgliad o guraduron-gynllunwyr) lleol, mewn partneriaeth â lleoliad lleol a fydd yn cynnal yr arddangosfa a’r sefydliad addysg uwch. Bydd y curaduron-gynllunwyr arweiniol yn cynllunio man ar gyfer digwyddiad mewn ardal gyhoeddus o’r lleoliad sy’n lletya’r arddangosfa gan ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, wedi’u hailbwrpasu, ac yn curadu digwyddiad byw neu gyfres o ddigwyddiadau byw i’w cynnal yn y man hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o ddigwyddiadau ledled y DU, ewch i: https://www.hellostrangernationalexhibition.org.uk/

 

Bydd myfyrdodau a dogfennaeth o Hello Stranger yn cael eu cynnwys mewn 2 gyhoeddiad Cymdeithas Cynllunwyr Theatr Prydain (SBTD), un yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023 yng ngŵyl Prâg, a’r ail yn cael ei lansio yn ystod Gwanwyn 2024 mewn cydweithrediad â V&A East.

The national exhibition project for 2023, titled “Hello Stranger”, is about welcoming designers, makers, and audiences back to reconnect and catch up on the state of performance design. Hello Stranger emphasises responsivity, openness and change in the context of multiple overlapping paradigm shifts. As the world emerges from the pandemic and faces up to climate crisis, legacies of racism and inequality, global conflict, and the continued impact of new technologies on our lives, we face a changed landscape for performance design and scenography. As design thinking emerges as a valuable approach to solving problems (or is critiqued as a tool of capitalism), how are performance designers responding and adapting to the key challenges of our times? How has our artform changed in response to a changing world? What voices have been missing from the conversation?

 

Regional events will take place across the UK in March 2023. Each will be led by a local lead

designer-curator (or collective of designer-curators), in partnership with a local host venue and HEI. Lead designer-curators will design an event-space for a public area of the host venue using locally-sourced, repurposed materials, and curate a live event or series of live events to take place within this space. For more information and full UK-wide list of events please visit: https://www.hellostrangernationalexhibition.org.uk/

 

Reflections and documentation from Hello Stranger will be included in 2 SBTD publications, one launching in June 2023 at PQ, and a second launching in Spring 2024 in collaboration with The V&A East.

What we do
hello stranger white.png
bottom of page